Newid iaith
Change language
Croeso i Ganolfan Dreftadaeth Cemaes sydd wedi’i leoli yn nghanol pentref Cemaes. Canfyddwch hanes a threftadaeth diddorol y plwyf mwyaf gogleddol yng Nghymru.
Canolfan Dreftadaeth Cemaes
Yn anffodus oherwydd rheolau Covid 19 nid yw yn bosib ail agor yr ystafelloedd Treftadaeth yn ddiogel ar hyn o bryd. Ond petai unrhyw un eisiau ymweld yna fe ellir trefnu trwy apwyntiad gan gysylltu a Carys ar 07808 792484.
Mae Caffi Banc ar agor yn ddyddiol yn gwerthu amrywiaeth eang o fyrbrydau ffres a theisennau cartref. Gwasanaeth tec awe neu eistedd yn yr ardd. Rhif cyswllt Caffi Banc Siobhan 07484 618050.
Diolch yn fawr. Cadwch yn ddiogel
Croeso i Ganolfan Dreftadaeth Cemaes sydd wedi’i leoli yng nghalon y pentref.
Mae’r ganolfan yn cynnig y cyfle i chi ganfod hanes a threftadaeth y plwyf mwyaf gogleddol yng Nghymru.
Lleolir yr arddangosfa dreftadaeth sy’n cynnwys pedwar thema wahanol ar ddau lawr. Yn ogystal mae ystafell gyfarfod a hyfforddiant ar y llawr cyntaf sydd ar gael i’w llogi ac mae pwynt gwybodaeth Croeso Cymru a thoiled hygyrch ar y llawr isaf.
Mae Caffi’r Banc yn le cyfeillgar i deuluoedd, a chewch ddewis o fwydydd blasus, coffi barista a chynnyrch heb glwten - y cyfan am bris teg a fforddiadwy. Mae croeso i gŵn yn yr ardd uwchben yr afon Wygyr yn y dyffryn islaw. Agorwyd siop anrhegion celf a chrefft yn ystod tymor y Pasg 2016.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan swyddogol pentref Cemaes. Gallwch ddarllen newyddlen gymunedol Llais Cemaes // Cemaes Voice oddi yno.
Cronfa Padrig
Croeso i
Welcome to
Agor 10.00am - 3.00pm pob dydd
Cwmni Cemaes Cyf © 2016 | Polisi Cwcis
Canolfan Dreftadaeth Cemaes
Cwmni Cemaes Cyf.
36 Stryd Fawr
Cemaes
Ynys Môn LL67 0HL
Neges destun. 07935773986 | E-bost. cysylltwch@canolfandreftadaethcemaes.org
“Dewch i’r ganolfan i ganfod mwy am dreftadaeth gyfoethog Cemaes, ardal brydferth ar arfordir gogledd Môn.”